P-06-1227 Mae angen uned iechyd meddwl arbenigol i famau a babanod yng Ngogledd Cymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Nia Catrin Foulkes, ar ôl casglu cyfanswm o 7,706  lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Mae angen uned mamau a babanod yng Ngogledd Cymru fel nad oes yn rhaid i deuluoedd deithio i Loegr, ac mae angen i'r gwasanaeth hwn fod ar gael yn Gymraeg. Mae hwn yn wasanaeth iechyd meddwl hanfodol sy’n angenrheidiol ar gyfer Gogledd Cymru.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Ym mis Mai 2019, ar ôl genedigaeth fy mab, cefais fy nerbyn i’r uned mamau a babanod ym Manceinion. Roedd yn anodd iawn i mi orfod mynd i Loegr ymhell oddi wrth fy nheulu a'm ffrindiau yng Ngogledd Cymru. Roeddwn i'n ei chael hi'n arbennig o anodd, am fy mod i’n Gymraes iaith gyntaf a oedd mewn ysbyty yn Lloegr. Mae gwir angen y gwasanaeth iechyd meddwl hwn yng Ngogledd Cymru, oherwydd credaf y byddai fy adferiad wedi bod yn gyflymach pe bawn i’n nes adref.

 

Mae cael babi yn brofiad sy’n newid bywyd rhywun, ac mae rhai mamau'n ei chael hi'n anoddach nag eraill i ddygymod, ac mae'n gyffredin iawn i fenywod gael anawsterau gyda'u hiechyd meddwl ar yr adeg hon. Gan gofio hyn, gallai mynediad i uned mamau a’u babanod ddod i ran unrhyw un, ac mae'n wasanaeth hanfodol y mae mawr ei angen ar lawer o deuluoedd. Felly byddai cael y gwasanaeth hwn yn agos atom wedi bod yn werthfawr tu hwnt i mi a'm teulu.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Gorllewin Clwyd

·         Gogledd Cymru